Arbor MIS a Chyllid ar gyfer Cymru
Dewch â’ch ysgol gyfan ynghyd gyda’r feddalwedd rheoli ysgol fwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig, a ddefnyddir gan 9,000+ o ysgolion a 150+ o Awdurdodau Lleol

Cymru, mae ffordd well o weithio

Credwn fod ysgolion yn haeddu cael eu cynorthwyo gan y dechnoleg orau.
Ond mae llawer o ysgolion ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gorfod defnyddio systemau beichus a chymhleth sy’n araf i arloesi. Dyna pam rydyn ni’n falch iawn bod Arbor – y feddalwedd System Gwybodaeth Reoli (MIS) a Chyllid gwmwl fwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig – bellach wedi cyrraedd Cymru.
Mae dros 9,000 o ysgolion yn y Deyrnas Unedig eisoes yn defnyddio Arbor bob dydd i adennill oriau bob wythnos, gweld y data sy’n bwysig yn glir, a chynorthwyo eu staff â’r offer, yr amser a’r wybodaeth i weithio ar eu gorau.
A bellach mae Arbor wedi cael ei chyflwyno ym mhob un o’r 53 o ysgolion ym Mro Morgannwg, gyda nodweddion penodol wedi’u teilwra i Gymru.
Gwnewch i’ch newid gyfrif
Mae SIMS wedi datgan y bydd ysgolion yn gallu cwblhau’r cyfrifiad yn SIMS 7 hyd at y gwanwyn 2026 yn unig. Wedi hynny, bydd pob ysgol yn cael ei symud i Genhedlaeth Nesaf SIMS – MIS newydd sbon sy’n dal i gael ei datblygu.
Felly, am y tro cyntaf, nid a fyddwch yn newid yw’r cwestiwn, ond gwneud i’r newid hwnnw gyfrif. Mae’n gyfle cyffrous i ddewis MIS sydd eisoes yn cael ei defnyddio a’i gwerthfawrogi gan filoedd o ysgolion, ac sy’n cael ei graddio’n uchel am fodlonrwydd cwsmeriaid.

70+
o funudau wedi’u harbed fesul aelod o staff bob wythnos
81%
yn cytuno bod Arbor wedi gwella’r ffordd maen nhw’n defnyddio data
74%
yn cytuno bod Arbor wedi gwella eu bywyd gwaith
92%
yn cytuno bod Arbor wedi trawsnewid y ffordd maen nhw’n gweithio
Pam mae ysgolion yng Nghymru yn dwlu ar Arbor

Wedi’i chreu i bawb yn eich ysgol
Un lle, nid dros y lle i gyd


Ar gyfer bywyd gwaith di-dor a mwy cefnogol
Canolfan reoli eich Awdurdod Lleol

Nodweddion a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion Cymru:




Sut i archwilio Arbor y tymor hwn

Ymuno â gweminar ar gyfer ysgolion Cymru
Gallwch weld sut byddai eich bywyd gwaith yn newid er gwell gydag Arbor. Byddwn yn dangos i chi sut mae Arbor yn:
- Cyflymu tasgau dyddiol i bawb, o gymryd y gofrestr i ddadansoddi cynnydd disgyblion
- Cyfuno systemau ar wahân o dan un to, gan gynnwys porth rhieni, prydau bwyd a thaliadau
- Rhoi bywyd i’ch data, gydag adroddiadau gweledol a rhybuddion wedi’u teilwra i’ch helpu i sylwi ar batrymau sy’n dod i’r amlwg a gweithredu’n gynt
Beth mae ysgolion yn ei ddweud am Arbor...
Roedden ni’n arfer bod â system ar gyfer ein nosweithiau rhieni, ap rhieni, taliadau ar gyfer pethau fel gwerthu gwisg ysgol, ap arall ar gyfer arian cinio, clybiau a theithiau. Mae bellach wedi’i symleiddio, mae ein gwybodaeth mewn un man ac mae’n arbed arian i ni yn ogystal! Mae rhieni’n ei hoffi hefyd – mae Arbor yn hawdd iawn iddynt ei defnyddioLucia Page, Rheolwr Busnes Ysgol yn Ysgol Gynradd Great Chart Lucia Page, Rheolwr Busnes Ysgol yn Ysgol Gynradd Great Chart
Bob dydd, mae rhywun yn dweud “Dwi wir yn dwlu ar Arbor”. Mae’n hawdd ei defnyddio ac yn rhoi gwybodaeth helaeth i chi, ond nid yw’n eich llethu na’ch drysu. Mae Arbor mor dda, rydych chi eisiau treulio amser yn chwarae â hiDamon Murphy, Arweinydd TG yn Ysgol Gynradd Plantation Damon Murphy, Arweinydd TG yn Ysgol Gynradd Plantation
Rydyn ni’n gallu archwilio data disgyblion yn ddwfn ac amlygu unrhyw faterion allweddol yn gyflym trwy glicio botwm. Mae’r staff addysgu ac arweinwyr yn gallu gweld a gwerthuso pa mor dda mae’r disgyblion yn datblygu ar lefel dosbarth, grŵp blwyddyn, pwnc ac ysgol gyfan. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar leihau llwyth gwaith uwch arweinwyr Bryan Harrison, Pennaeth Ysgol Gynradd Miriam Lord
Mae’n eich helpu i sylwi ar feysydd sy’n achos pryder ar unwaith, yn enwedig o ran asesiadau ac ymddygiad. Gallwch ymchwilio’n ddyfnach i’ch data heb ormod o ymdrech – mae yno ar flaenau’ch bysedd! Julie Smith, Cynorthwy-ydd Personol i Bennaeth Ysgol Gymunedol Parkroyal
Eisiau gwybod mwy? Ymunwch ag arddangosiad byw

Methu ymuno ag arddangosiad?
Lawrlwythwch lyfryn i glywed gan fwy o’n hysgolion a gweld ein cynhyrchion yn fanwl

Llyfryn MIS ar gyfer Ysgolion
Cynradd Darllenwch sut mae Arbor yn cyfuno popeth yn eich ysgol gynradd o dan un to.
Lawrlwytho
Llyfryn MIS ar gyfer Ysgolion Uwchradd
Dysgwch sut mae Arbor yn eich helpu i greu ysgol uwchradd gydgysylltiedig.
Lawrlwytho
Llyfryn MIS ar gyfer Ysgolion ADY
Llyfryn MIS ar gyfer Ysgolion ADYDysgwch sut mae Arbor yn cynorthwyo ysgolion ADY yn ystod diwrnodau prysur, pan fydd pethau annisgwyl yn digwydd
Lawrlwytho